CDCCymru yn Cyflwyno
Dosbarth y Cwmni
Tŷ Dawns Caerdydd
Os ydych yn artist dawns broffesiynol neu mewn hyfforddiant dawns broffesiynol, mae croeso i chi ymuno â’r Cwmni yn eu dosbarthiadau dyddiol yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd.
Addysgir y dosbarth dyddiol gan y Cyfarwyddwr Ymarferion, athrawon gwadd neu ddawnswyr y cwmni, a bydd yn newid am yn ail rhwng technegau cyfoes, bale a byrfyfyr.
Mae 4 le ar gael ym mhob dosbarth. Er mwyn sicrhau dilyniant hyfforddiant gofynnwn i chi archebu bloc o ddosbarthiadau naill ai Bale neu ddawns Gyfoes ar gyfer yr wythnos yn hytrach na dosbarthiadau unigol, ac i chi beidio ag archebu mwy na dau floc y mis i sicrhau bod digon o le i gymaint o bobl â phosib gymryd rhan.
Nid oes angen i chi ddod i bob dosbarth ond trwy archebu, cedwir eich lle ac rydym yn eich annog i ddod gan fod athrawon fel arfer yn addysgu pethau sy’n ddilyniant drwy gydol yr wythnos.
MAI
7fed - 10fed: Cyfoes gyda Richard Chappell
13eg - 17eg: Cyfoes gyda Lewis Wilkins
20fed - 21ain: Cyfoes gyda Faye Tan
22ain: Yoga gyda Lilia Gwaed
23ain - 24ain: Bale gyda Dai Miura
28ain - 31ain: Cyfoes gyda Jack Philp
MEHEFIN
3ydd, 4ydd a 7fed: Cyfoes gyda Richard Chappell
5ed a 6ed: Cyfoes gyda Charlotte Pook