Humans Move yn Cyflwyno

Let Life Dance

Dydd Sadwrn

21 Mehefin 2025

1 awr

Mae Humans Move yn Gwmni Dawns Cynhwysol sy’n dod i’r amlwg sy’n ymdrechu i gael ei arwain gan anabledd.

Yn y sioe ddawns theatr broffesiynol hon gallwch ddisgwyl perfformiadau pwerus gan gast o ddawnswyr ag anabledd a heb anabledd sy’n llawn o gydymdeimlad â’n profiad dynol. Rydym yn dathlu gwahaniaeth ac yn toddi rhwystrau i greu’r amodau ar gyfer agor calonnau yn ddiddiwedd. Dilynwch daith y cast wrth iddyn nhw ganfod eu ffordd trwy ddyfroedd heriol bywyd o droadau, troelliadau, ymyrraeth ac anhrefn wrth iddyn nhw ddarganfod sut i gysylltu yn ôl â hwy eu hunain, ei gilydd ac ildio i ddawns gyffrous bywyd.

Wedi ei choreograffu gan y coreograffydd arobryn Jessie Brett, mae’r sioe yn archwilio beth sy’n digwydd pan fyddwn yn mynd yn erbyn ein natur ein hunain. Sut y gall bywyd ddawnsio trwom mewn byd llawn cyfyngiadau, rhwystrau a thrafferthion? Wedi ei blethu â cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr, Jered Sorkin, rydym yn gwybod bod angen pob un ohonom, fel darnau jig-so cymhleth, i greu cydbwysedd yn y byd. Mae rhywbeth i’w ddysgu o bob profiad dynol.

Mae Humans Move yn Gwmni Dawns Cynhwysol sy’n dod i’r amlwg sy’n ymdrechu i gael ei arwain gan anabledd.

Galeri
rehearsal photo, one dancer in purple stretches backwards over their own head raching for others in the back
four dancers huddle around another, all holdig one another tenderly
one dancer falls backwards, four others support them
Dates
Dydd Sadwrn 21 Mehefin 2025, 19:30
Assistive Listening