Rhiannon Williams a Steffan Phillips yn Cyflwyno
Pan elo’r adar
Dydd Mawrth
23 Medi 2025
Gan godi cwestiynau ynglŷn â’n perthynas ni gyda byd natur ac ieithoedd lleiafrifedig fel ei gilydd, mae Pan elo’r adar yn gynhyrchiad theatr gobeithiol sy’n ein hannog i weithredu er mwyn y dyfodol.
Wedi’i gyflwyno mewn arddull gorfforol a chwareus gan yr artistiaid Rhiannon Mair a Steffan Phillips, mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys perfformiadau byw gan y cerddorion Heulwen Williams ac N'famady Kouyaté, gwaith animeiddio gan Efa Blosse-Mason a thrac sain gan Ani Glass.
Mae’n trafod yr argyfwng y mae natur ac iaith ynddi, a phwysigrwydd mynd i’r afael â’r naill i sicrhau bod y llall yn cael ei warchod ac yn ffynnu. Mae’r gwaith hwn yn amserol o ran ei themâu ac yn cynnig llwyfan i drafod.
Cyflwynir y gwaith ar ffurf cylch; cylch sydd yn cynrychioli treigl amser, yn symbol o gylch y rhod a pherthynas symbiotig. Mae Rhiannon a Steffan yn defnyddio arddull gorfforol yn y gwaith a ddatblygwyd gyda’u cyfarwyddwr symyd profiadol, Dan Watson. Y mae’n cynnwys agwedd arbrofol ar gemau plant fel modd o herio a mynegi rwystredigaeth ynglŷn â’r hyn sydd yn y fantol. Digwydda hyn oll i gyfeiliant byw persain Heulwen a N’famady, sydd yn cyfrannu at greu profiad cofiadwy. Er bod themâu’r cynhyrchiad yn ddwys, y nod yw y bydd y gynulleidfa’n gadael gan deimlo’n obeithiol ac wedi’u hymbweru.
Cyflwynir y gwaith gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Cymru a phrosiect Gwreiddiau Gwyllt gan Fentrau Iaith Cymru. Diolch hefyd i Theatr Felinfach, Frân Wen a Phrifysgol De Cymru.v



