CDCCymru yn Cyflwyno

Dosbarth y Cwmni

Tŷ Dawns Caerdydd

Os ydych yn artist dawns broffesiynol neu mewn hyfforddiant dawns broffesiynol, mae croeso i chi ymuno â’r Cwmni yn eu dosbarthiadau dyddiol yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd. 

 

Dyddiadau Dosbarth Cwmni

Mae 4 le ar gael ym mhob dosbarth. Er mwyn sicrhau dilyniant hyfforddiant gofynnwn i chi archebu bloc o ddosbarthiadau naill ai Bale neu ddawns Gyfoes ar gyfer yr wythnos yn hytrach na dosbarthiadau unigol, ac i chi beidio ag archebu mwy na dau floc y mis i sicrhau bod digon o le i gymaint o bobl â phosib gymryd rhan.

Nid oes angen i chi ddod i bob dosbarth ond trwy archebu, cedwir eich lle ac rydym yn eich annog i ddod gan fod athrawon fel arfer yn addysgu pethau sy’n ddilyniant drwy gydol yr wythnos.

HYDREF

13 &14: Bale gyda Faye Tan WEDI'I ARCHEBU'N LLAWN

15: Ioga gyda Lilia Blood WEDI'I ARCHEBU'N LLAWN

30 & 31: Kalanga* gyda'r Cyfarwyddwr Artistig, Bakani Pick-Up WEDI'I ARCHEBU'N LLAWN

*KALANGA, ymarfer byrfyfyrio sy’n plethu ffurfiau dawns Simbabweaidd a Gorllewinol. Trwy archwiliadau dan arweiniad i rythmau, dealltwriaeth a dychymyg, byddwn yn symud tuag at gwestiynau agored yn hytrach na chwilio am ddatrysiadau – gan flaenoriaethu ffyrdd gwahanol o fodoli dros ffyrdd ‘cywir’ o fodoli. Lle i wrando’n ofalus, i symud yn ddewr ac i adael i’r anhybsys siapio eich dawns.

TACHWEDD

W/C 10 Tachwedd - Gwybodaeth i ddilyn

18 & 19: Cyfoes gyda Faye Tan

20: Yoga gyda Lilia Blood

el elusen gofrestredig, rydym yn dibynnu ar gyfraniadau gan bobl hael, megis chi, i ddod â dawns i bob math o bobl mewn amrywiaeth o lefydd. 

If you would like to make a donation towards class you can do so here 

Yn digwydd
Bale gyda Daisuke Miura
29 & 30 Medi
Dydd Llun 13 Hydref 2025, 10:00
Ioga gyda Lilia Blood
15 Hydref
Dydd Mercher 15 Hydref 2025, 10:00
Kalanga gyda Bakani Pick-Up
30 & 31 Hydref
Dydd Iau 30 Hydref 2025, 10:00
Cyfoes gyda Faye Tan
18 & 19 Tachwedd
Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025, 10:00
Ioga gyda Lilia Blood
20 Tachwedd
Dydd Iau 20 Tachwedd 2025, 10:00