SYNC Dance Company yn Cyflwyno

An evening in SYNC

22 Mehefin 2025

Byddwch yn barod am noson llawn egni; Dawnsio, cerddoriaeth a chelfyddyd. Bydd y perfformiad deinamig yma yn arddangos rhai o ddawnswyr mwyaf cyffrous Cymru, tra’n dathlu eu hangerdd, ymroddiad a chelfyddyd ar y llwyfan.

An Evening in SYNC

Byddwch yn barod am noson llawn egni; Dawnsio, cerddoriaeth a chelfyddyd. Bydd y perfformiad deinamig yma yn arddangos rhai o ddawnswyr mwyaf cyffrous Cymru, tra’n dathlu eu hangerdd, ymroddiad a chelfyddyd ar y llwyfan.

Dyma ddathliad gwych o ddawns yn ei ffurf mwyaf angerddol. Bydd y noson yn cynnwys gwaith gan saith o ddawnswyr sy’n gweithio’n broffesiynol yn y maes, yn ogystal â gwaith aelodau y grŵp. Bydd dawnswyr gwadd ychwanegol yn ymuno â ni hefyd, i arddangos talent gorau Cymru. Byddwn yn cyfuno’r steiliau ‘hip-hop’, ‘commercial’, ‘jazz-funk’, ‘afro beats’, ‘popping’, ‘waaking’ a ‘contemporary’. Mae’r perrformiad hwn yn addo noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, symudiad, ac adrodd stori.

 

Cafodd SYNC ei sefydlu gan Poppy Tremlett yn 2023. Mae’n gwmni dawnsio o safon uchel ,wedi’i sefydlu yng Nghaerdydd, De Cymru. Ar ôl cael ei hyfforddi’n broffesiynol a dechrau ei gyrfa yn Llundain, fe ddychwelodd Poppy i Gymru, ac fe sylweddolodd fod angen mwy o gyfleoedd i ddawnswyr a oedd eisiau adeiladu gyrfa yn y diwydiant. Roedd hi’n ymwybodol nad oedd llawer o hyfforddiant  na chefnogaeth gyrfaol lefel uwch mewn dawns yma. Dyma ddechreuodd y syniad o SYNC.

Gyda’r bwriad o gynnig mentora, hyfforddiant, a mewnweledigaeth i’r diwydiant, fe greodd Poppy SYNC i bontio’r bwlch rhwng y dyhead a’r llwyddiant fel dawnswyr proffesiynol. Ers cychwyn, mae SYNC wedi ymroi hyfforddiant o’r radd uchaf, gan roi rhyddid i’r dawnswyr berffeithio eu crefft ac adeiladu gyrfa ddawns barhaol.

Nawr, am y tro cyntaf, mae SYNC yn dod i’r llwyfan, i roi cipolwg o’r talent, ymroddiad, ac egni creadigol sy’n lliwio’r cwmni. Dewch i ymuno â’n stori ni.

Dates
Dydd Sul 22 Mehefin 2025, 16:00
Dydd Sul 22 Mehefin 2025, 19:00